Swansea University - Amdanom Ni

Amdanom Ni

Cyflwyniad i Brifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe, a sefydlwyd ym 1920, yn brifysgol fywiog, yn brifysgol lle mae ymchwil yn flaenoriaeth, ac yn brifysgol sydd ar flaen y gad ym maes darganfyddiadau academaidd a gwyddonol. Wedi'i lleoli ar barcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar ymyl ysblander Penrhyn G?yr, mae lleoliad y Brifysgol yn hudolus.

Mae'r tudalennau hyn yn rhoi  ffeithiau a ffigyrau yngl?n â'r Brifysgol, gwybodaeth am ei Rheolaeth, a chyflwyniad i Swyddfa'r Is-ganghellor yn ogystal â manylion am ein hanes. Efallai yr hoffech gael cip ar ein galeri lluniau i weld pam fod Abertawe yn mwynhau un o'r lleoliadau gorau o holl brifysgolion y Deyrnas Unedig.

Mae gan Brifysgol Abertawe oddeutu 12,500 o fyfyrwyr ac mae'n cynnig 500 cwrs israddedig a 130 cwrs ôl-raddedig  mewn ystod eang o feysydd pwnc, o Astudiaethau Americanaidd i S?oleg, yn ogystal á rhaglen addysg barhaus helaeth. Mae ystod lawn o  gyfleusterau cymdeithasol, diwylliannol a chwaraeon yn ychwanegu at deimlad cymdeithasol cryf y mae'r Brifysgol yn ei goleddu. 

Mae gan y Brifysgol ystod lawn o bolisïau a gweithdrefnau i reoli'i gweithgareddau: mae manylion y rhain i'w cael yn rhannau perthnasol o'r wefan hon.
 
Mae'r egwyddorion a'r ymrwymiadau sydd wedi'u rhestru isod yn sylfaen i bob agwedd ar weithgaredd y Brifysgol.

Cyfle Cyfartal
Urddas yn y Gwaith ac Wrth Astudio (lawr lwythiad PDF)
Rhyddid i Lefaru-Cod ymarfer.pdf a Rhyddid i Lefaru-Rhestr wirio.pdf (lawr lwythiad PDF)
Datgelu er Lles y Cyhoedd (lawr lwythiad PDF)
Polisi Terfynol Diogelu Grwpiau Agored i Niwed [lawr lwythiad PDF]

Mae arolygon a 'thablau cynghrair' diweddar wedi gosod Abertawe ymysg yr 20 Prifysgol uchaf yn y Deyrnas Unedig yn rheolaidd ar gyfer safon yr addysgu a boddhad myfyrwyr. Mae'r canlyniadau yn adlewyrchu nod y Brifysgol i ddarparu profiad rhagorol i'r myfyrwyr ochr yn ochr ag addysgu o'r safon uchaf un sy'n cynhyrchu graddedigion sydd wedi'u harfogi ar gyfer cyrhaeddiad personol a phroffesiynol arbennig.

"...cymuned campws gref; campws â steil iddo, agos i'r môr, neu'r ddinas, neu'r mynyddoedd; digon o letyau un ai ar y campws neu mewn cymunedau myfyrwyr cyfagos; cyfoeth o weithgaredd diwylliannol ar y campws;  llwythi o ddarpariaeth chwaraeon o safon uchel, ac enw da am ei safon academaidd! Breuddwyd amhosibl? Wel, heb or-ddweud yn ormodol, mae'n rhaid dweud fod gan Abertawe'r cyfan..."

- The Potter Guide to Higher Education in UK Universities & Colleges

 Cysylltwch â ni

Er mwyn cyrraedd yr adran berthnasol gyda'ch ymholiad, dewiswch y cyfeiriad cysylltu priodol.

Cyfeiriad post y Brifysgol yw:

Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP, Cymru, Y Deyrnas Unedig
 
Prif Switsfwrdd

Ffôn. +44 (0) 1792 205678
Ffacs. +44 (0) 1792 295157
Minicom +44 (0)1792 513100

Swyddfa'r Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus:

Ffôn. +44 (0) 1792 205678
Ffacs. +44 (0) 1792 295157