Swansea University

Welcome

Myfyrwyr Ôl-raddedig

Gwybodaeth ar gyfer Myfyrwyr Ôl-raddedig Presennol

Croeso i dudalennau i Fyfyrwyr Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe. Ein nod yw rhoi'r holl wybodaeth a newyddion sydd eu hangen arnoch, p'un a ydych yn astudio ar gyfer gradd Meistr a Addysgir neu ar gyfer Gradd Ymchwil.

Mae gennym wybodaeth am gymorth academaidd a gweinyddol i fyfyrwyr ôl-raddedig, ar hyfforddiant a chynadleddau, seminarau a chyrsiau datblygu sgiliau. Caiff grwpiau ymchwil a chyrff cynrychioliadol fel y Cynulliad Myfyrwyr Ôl-raddedig eu rhestru, felly hefyd aelodaeth lawn Swyddfa'r Gyfadran Ymchwil.

Ceir dolenni hefyd i wybodaeth am lety, cymorth lles a digwyddiadau cymdeithasol.

Mae'r holl weithdrefnau a chanllawiau swyddogol ar eich amser fel myfyriwr ôl-raddedig wedi'u cynnwys yn y Llawlyfr Myfyrwyr Meistri a Addysgir a'r Llawlyfr Myfyrwyr Gradd Ymchwil yn cynnwys rheolau presenoldeb a chynnydd, canllawiau ar arddull ysgrifennu a chyflwyno gwaith ysgrifenedig a graddio.