Swansea University

Sut i Astudio

Trefnu!

Mae cynllunio ymlaen llaw yn allweddol. Gall cyflwyno traethodau ar ôl y dyddiad a bennwyd olygu eich bod yn colli marciau, a allai effeithio ar ba radd a gewch yn y pen draw! Prynwch ddyddiadur a sicrhewch eich bod yn nodi eich holl ddyddiadau pwysig yn cynnwys dyddiadau'r tymhorau a'r semestrau, tiwtorialau, dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwaith a dyddiadau arholiadau. Dylech gynnwys copi o'ch amserlen a threfnu 'sesiynau astudio' lle y gallwch ddarllen y deunydd gorfodol. Mae gwneud ychydig bach drwy gydol yr wythnos yn haws o lawer nag astudio munud olaf.

Darlithoedd

Yr hyn nad ydynt yn ei ddweud wrthych am ddarlithoedd yw mai dyma lle bydd eich darlithwyr yn rhoi cipolwg pwysig i chi ar y cwrs. Eu bwriad yw tanio syniadau a rhoi awgrymiadau i chi ar eich gwaith ymchwil. Felly, er bod rhai darlithoedd yn ddewisol, gallai mynd iddynt fod yn gam doeth iawn. A beth arall y byddwch yn ei wneud am 9am ar ddydd Llun?!!

AWGRYM! Mae bob amser yn syniad da holi eich ysgol neu'ch adran pa ddarlithoedd sy'n orfodol. Ceir Polisi Presenoldeb swyddogol hefyd.

Cadw nodiadau

Nid oes angen trawsgrifiad gair am air arnoch o'ch darlithoedd, mae'n bwysicach sicrhau eich bod yn talu sylw ac yn dilyn yr hyn y mae'r darlithydd yn ei ddweud. Nodwch eiriau, enwau a brawddegau allweddol y gallwch eu hategu gyda'ch gwaith ymchwil eich hun yn ddiweddarach. Os ydych yn araf am gadw nodiadau defnyddiwch ddictaffon neu cysylltwch â'r swyddfa Anabledd i weld pa gymorth y gallant ei gynnig i chi os oes gennych nam ar y golwg neu'r clyw.

AWGRYM! Pan fyddwch yn darllen neu'n ymchwilio, ceisiwch gadw nodiadau wrth i chi fynd yn eich blaen, gan y bydd hyn yn eich helpu i ganolbwyntio a bydd yn fodd i chi lunio eich syniadau eich hun i'w defnyddio yn ddiweddarach.

Ysgrifennu eich nodiadau

Nid yw'r dasg hon yn un gyffrous iawn ond byddwch yn ddiolchgar pan ddaw'r amser i chi ysgrifennu traethawd neu adolygu. Ceisiwch eirio pethau yn eich geiriau eich hunain a byddwch yn gryno. Ceisiwch eu trefnu yn ôl y pwnc neu'r modiwl. Bydd deunydd papur, ffolderi a rhanwyr ffeiliau yn arbed amser a straen i chi yn nes ymlaen.

Tiwtorialau a Seminarau

Grwpiau bach yw tiwtorialau lle gall myfyrwyr holi cwestiynau, cael adborth a thrafod pynciau. Gallant helpu i wella eich dealltwriaeth o'r pwnc a byddant yn eich helpu i baratoi eich traethodau a'ch arholiadau.

Mae seminarau yn debycach i ddosbarthiadau a addysgir a bydd disgwyl i chi baratoi ar eu cyfer, drwy ddarllen cefndirol neu gyflwyniadau fel arfer.

Mae seminarau a thiwtorialau i yn orfodol fel arfer, felly os nad ydych am gael llythyr cwyno gan eich tiwtor personol mae'n syniad da i chi fod yn bresennol. Yn ogystal â hyn, os byddwch yn colli tri neu fwy ohonynt gellir hysbysu Pennaeth yr Ysgol o hyn, neu'n waeth, gellir eich disgyblu!