Astudiaeth ran-amser ac Addysg Barhaus i Oedolion
Mae'r rhaglen ar gyfer dysgu i oedolion ac astudiaeth ran-amser yn cyflwyno set eang ac amrywiol o gyrsiau i'r gymuned yn ogystal â'r corff o fyfyrwyr. Mae'r rhaglen a reolir gan yr Adran Addysg Barhaus i Oedolion (AABO), yn cynnig profiadau dysgu newydd a'i nod yw ehangu cyfranogiad mewn addysg uwch.
Mae'r cynllun wedi'i ddylunio i bobl sydd, oherwydd eu hymrwymiadau gwaith, teulu neu ymrwymiadau eraill, yn methu dechrau ar astudiaeth amser llawn. Felly, mae gan fyfyrwyr sy'n dewis y radd ran-amser y cyfle i ffitio'u hastudiaethau o gwmpas eu hymrwymiadau eraill. Mae nifer o opsiynau i ddarpar fyfyrwyr ddewis o'u plith wrth ddewis eu cyrsiau. Daw myfyrwyr AABO o nifer fawr o wahanol gefndiroedd ac yn ystod y 15 mlynedd diwethaf mae dros 250 o bobl wedi graddio o'r rhaglen, gan ennill cymhwyster a all gynorthwyo'u gyrfa a chynnig ymdeimlad o gyflawniad a hunangyflawniad.
Ar hyn o bryd, mae'r Adran yn 'seiliedig yn y gymuned' gan mwyaf, gyda thros 90% o'i darpariaeth yn digwydd oddi ar y campws. Ar hyn o bryd, mae AABO yn cynnig ystod eang o gyrsiau mewn meysydd fel Technoleg Gwybodaeth, Cymraeg, y Celfyddydau Perfformio a'r Dyniaethau. Yn ogystal, mae cyrsiau newydd mewn Astudiaethau Datblygu Cymunedol a Thystysgrifau Addysg Uwch mewn Cynghori ac Ymarfer Celfyddydau Cymunedol hefyd wedi dod i'r fei a dechreuodd MA rhan -amser mewn Dysgu Gydol Oes ym mis Hydref 2005. Mae AABO yn arwain y maes mewn dysgu trwy gymorth TGCh trwy ei brosiectau Connecting Communities Cymru (CCC) a Phrifysgol Gymunedol y Cymoedd (CUV).
Mae Llyfryn Prifysgol y Gwanwyn AABO allan ac mae cyrsiau newydd yn dechrau. Gallwch lawrlwytho'r llyfryn o'r fan hon.
Lawrlwythwch wybodaeth am yr MA Dysgu Gydol Oes o'r fan hon.
Oes gennych ddiddordeb mewn astudiaeth ôl-raddedig ran-amser? Rydym yn recriwtio eto ar gyfer ein rhaglen M.A. lwyddiannus mewn Dysgu Gydol Oes (mynediad Hydref 2009). Lledaenwch gost astudiaeth ôl-raddedig trwy astudio'n rhan-amser. Bydd bwrsarïau gwerth £2,700 ar gael.
Bob blwyddyn, mae'r Adran yn cefnogi dros 6,000 o fyfyrwyr: trowch at wefan AABO i gael mwy o wybodaeth neu ffoniwch +44 (0) 1792 295786