Swansea University Home - Latest News and Events

Swansea University Arts and Humanities

Ysgoloriaethau newydd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn Abertawe


Mae cyfleoedd newydd cyffrous wedi eu creu i helpu i ariannu myfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn rhai pynciau ym Mhrifysgol Abertawe.

I fyfyrwyr sydd am astudio Almaeneg, Ffrangeg neu Sbaeneg, o’r flwyddyn academaidd nesaf ymlaen, mae pedair ysgoloriaeth gwerth £500 yr un ar gael, a hynny am gyfnod o dair blynedd.

Ac, ym maes Astudiaethau Ffilm a'r Cyfryngau, mae tair ysgoloriaeth gwerth £500 yr un ar gael am flwyddyn.

“Mae’r dair ysgoloriaeth is-raddedig sydd ar gael ym maes y cyfryngau trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer 2010-11 yn ddatblygiad cyffrous o fewn Ysgol y Celfyddydau a’r Dyniaethau yma ym Mhrifysgol Abertawe,” meddai Dr Gwenno Ffrancon, uwch-ddarlithydd yn y Cyfryngau.

“Mae’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes y Cyfryngau yn tyfu’n gyson yma gyda nifer o fodiwlau blaengar sy’n cyfuno astudiaeth academaidd gyda gwaith ymarferol proffesiynol yn cael eu cynnig. Mae’r adran yn falch iawn o’i chysylltiadau agos gydag amryw o bartneriaethau yn y diwydiant ac mae’r ysgoloriaethau hyn yn brawf o ymrwymiad y Brifysgol i addysg cyfrwng Cymraeg.”

Mae'r dyddiad cau ar gyfer yr ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg i gyd ar 31 Mawrth, 2010. Am wybodaeth ar sut mae gwneud cais, ewch at DarpariaethCyfrwngCymraeg. Neu, anfonwch e-bost at: yngymraeg-ycd@abertawe.ac.uk neu astudio@abertawe.ac.uk

Ariennir yr ysgoloriaethau ym maes Ieithoedd Modern gan y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg.

Current News Items:

Archived News Items:

Valid XHTML 1.0 Transitional